Croeso i'r canllaw byr hwn am sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi American Psychological Association (APA). Os nad ydych wedi defnyddio arddull gyfeirnodi APA o'r blaen, dechreuwch gyda'r tab Dechrau arni ar y tudalennau hyn i gael argymhellion am yr hyn sydd ei angen. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio'r tiwtorialau ar-lein sydd ar gael ar y tudalennau cartref hyn.
Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.