Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.) (Ar-lein): Hafan

This page is also available in English

Uniondeb Academaidd

Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.

Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.

Croeso

Croeso i'r canllaw byr hwn am sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi American Psychological Association (APA). Os nad ydych wedi defnyddio arddull gyfeirnodi APA o'r blaen, dechreuwch gyda'r tab Dechrau arni ar y tudalennau hyn i gael argymhellion am yr hyn sydd ei angen. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio'r tiwtorialau ar-lein sydd ar gael ar y tudalennau cartref hyn.

Tiwtorial ar-lein

Dilynwch y ddolen i ymgofrestru ar gyfer Hanfodion Llyfrgell MyUni os nad ydych chi wedi cael mynediad at y cwrs o'r blaen. 

Datganiad Hawlfraint

Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.

Creative Commons Licence