Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Dyfyniadau Eilaidd

This page is also available in English

.Dyfyniadau Eilaidd

Rhaid gwneud pob ymdrech i ddod o hyd i'r testun (neu'r llyfr neu'r erthygl) gwreiddiol a'i ddarllen yn hytrach na chyfeirnodi gwaith un awdur drwy ddyfynnu cyfeiriad ato mewn gwaith awdur arall.  Fodd bynnag, ar rai adegau, efallai na fydd modd dod o hyd i'r ffynhonnell wreiddiol a'i darllen.  Os felly, rhaid i chi ddweud yn glir wrth ysgrifennu'ch cyfeiriadau llawn nad ydych yn cyfeirio at y ffynhonnell wreiddiol. 

Yn eich Rhestr Gyfeiriadau, dylech gyfeirio at y gwaith dim ond os ydych wedi darllen y ffynhonnell wreiddiol eich hun. 

Enghraifft:

Yn y testun:

Mae Neville1(t17) yn dyfynnu o adroddiad y CBI o 2006 a  honnodd fod 23% o gyflogwyr yn anfodlon ar sgiliau llythrennedd graddedigion.

Cyfeiriadau

1.  Neville, C. The complete guide to referencing and avoiding

      plagiarism. Maidenhead: Gwasg y Brifysgol Agored; 2007.