Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Tudalen We Unigol/siartiau/tablau/lluniau /cronfa ddata o fewn gwefan

This page is also available in English

Tudalen We Unigol/siartiau/tablau/lluniau /cronfa ddata o fewn gwefan

Sylwer: Defnyddiwch hyn pan fydd y rhan o'r wefan rydych yn cyfeirio ati wedi'i chynhyrchu gan y sefydliad sy'n gyfrifol am y wefan.

Os ydych yn dyfynnu darn ar wefan a ysgrifennwyd gan awdur a enwir, defnyddiwch yr un arddull ag ar gyfer e-lyfr (gweler uchod).

Teitl yr hafan

[Rhyngrwyd].

Lle cyhoeddi: (os yw ar gael)

Cyhoeddwr; (os yw ar gael)

Blwyddyn cyhoeddi'r hafan.

[Math o ddeunydd yn ôl yr angen e.e. Siart/Fideo/Podlediad etc.],

Teitl y dudalen we/siart/llun /tabl;

Dyddiad cyhoeddi'r dudalen we/siart/llun / - does dim angen ei nodi oni bai ei fod yn wahanol i ddyddiad cyhoeddi'r wefan] [diweddarwyd blwyddyn mis dydd; dyfynnwyd blwyddyn mis dydd]. 

Ar gael yn:

Sylwer: Ni ddylech geisio cwtogi'r URL

Enghraifft o dudalen we unigol ar wefan:

Cancer Research UK [Rhyngrwyd]. [Llundain]: Cancer Research UK; [dyddiad anhysbys]. Trials and research; [diweddarwyd 2013 Aws 27; dyfynnwyd 2013 Aws 27]. Ar gael yn: http://www.cancerresearchuk.org/cancer-help/trials/%20?ssSourceSiteId=home

Enghraifft o siart mewn gwefan:

Fruits & veggies- more matters [Rhyngrwyd]. [lle anhysbys]: Produce for Better Health Foundation; 2013. [Siart], Ways to get more; [dyfynnwyd 2007 Mai 27]; [tua 3 sgrîn]. Ar gael yn: http://www.fruitsandveggiesmorematters.org/?page_id=113&iCat=22