Croeso i'r canllaw byr hwn am sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi Vancouver. Os nad ydych wedi defnyddio arddull gyfeirnodi Vancouver o'r blaen, dechreuwch gyda'r tab 'Yr hanfodion' ar y tudalennau hyn i gael argymhellion am yr hyn sydd ei angen. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio'r tiwtorialau ar-lein sydd ar gael ar y tudalennau cartref hyn.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich Llyfrgellwyr. Gallwch weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyflawn i sicrhau gwybodaeth ymarferol dda o'ch arddull cyfeirnodi. Gallwch chi bob amser ddod yn ôl i'r cwrs hwn pryd bynnag y byddwch chi eisiau gloywi.