Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Deunydd heb ei Gyhoeddi

This page is also available in English

Cyfathrebiadau personol

Lle nad yw'r cyfathrebiad personol wedi'i archifo neu le nad oes modd ei adalw, er enghraifft sgyrsiau neu lythyrau personol, nid oes angen rhestru'r cyfathrebiad yn y rhestr gyfeiriadau. Yn hytrach, rhowch yr wybodaeth mewn cromfachau yn y testun.

Oherwydd cyfrinachedd cleifion, bydd angen defnyddio ffugenw ar gyfer y claf.

Er enghraifft:

...a phrofwyd bod modd trin y rhan fwyaf o'r clefydau hyn (2018 sgwrs rhwng HJ Lewis a'r awdur; dim cyfeiriad) tra bod yr ychydig a...

Os oes modd adalw'r wybodaeth, defnyddiwch y fformat hwn ar gyfer y rhestr gyfeiriadau:

Enw(au) yr Awdur, Cyfenw ac wedyn enw cyntaf. Defnyddiwch flaenlythyren ar gyfer yr enw canol cyntaf - anwybyddwch unrhyw enwau canol eraill.

(lleoliad gwaith yr awdur).

Ymadrodd Cysylltiol:  e.e. Sgwrs gyda: 

Enw(au)'r parti arall, Cyfenw ac wedyn enw cyntaf. Defnyddiwch flaenlythyren ar gyfer yr enw canol cyntaf - anwybyddwch unrhyw enwau canol eraill.

(Gwaith y parti arall).

Os yw ar ffurf dogfen, ychwanegwch

Nifer y tudalennau. 

Lle y gellir adalw'r eitem.

Enghraifft o lythyr:

Anfinsen, Christian B. (Adran Bioleg, Prifysgol Johns Hopkins, Baltimore, MD).  Llythyr at: Cyril Ponnamperuma (Prifysgol Maryland, College Park, MD). 2018 Ebr 23. 1 ddalen. Lleolir yn: Y Casgliad Llawysgrifau Modern, Adran Hanes Meddygaeth, Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol, Bethesda, MD; MS C 496, Blwch 8, Ffolder 3.

Enghraifft o sgwrs:

Patrias, Karen (Adran Gwasanaethau Cyhoeddus, Llyfrgell Meddygaeth Genedlaethol, Bethesda, MD). Sgwrs gyda: Margaret Madison (Adran Gyfeirio, Prifysgol Arkansas ar gyfer y Gwyddorau Meddygol, Little Rock, AR). 2018 Maw 3.