Cyhoeddir yr erthyglau hyn ar-lein cyn iddynt gael eu hargraffu a chyn y dynodir rhif cyfrol a rhifyn iddynt. Mae'n bosib hefyd y cânt eu diwygio cyn cyhoeddi'r argraffiad terfynol. Felly, mae'n ddefnyddiol cydnabod eu statws drwy roi e-gyhoeddiad cyn y dyddiad cyhoeddi ar-lein, a ddylai gynnwys y dyddiad llawn yn yr achos hwn (blwyddyn, mis dydd). Bydd DOI hefyd yn helpu'r darllenydd i ddod o hyd i'r erthygl.
Wrth ddyfynnu e-gyhoeddiadau ac erthyglau ar-lein yn gyntaf ar ôl iddynt gael eu hargraffu a dynodwyd rhifau cyfrol a rhifyn iddynt, bydd rhaid i chi sicrhau eich bod yn cyfeirnodi'r fersiwn o'r erthygl a ddarllenwyd gennych. Os dymunwch, gallwch ychwanegu nodyn ar ddiwedd y cyfeiriad i nodi mai e-gyhoeddiad ydoedd.
Awdur(on). (Cyfenw ac wedyn blaenlythyren neu flaenlythrennau).
Teitl yr erthygl.
Enw'r cyfnodolyn [Rhyngrwyd].
E-gyhoeddiadau Blwyddyn cyhoeddi
[dyddiad dyfynnu];
Rhif cyfrol y cyfnodolyn:
(Rhif y rhifyn):
Rhif(au) tudalen cynhwysol yr erthygl.
Ar gael yn:
Enghraifft:
Lotz M, Martel-Pelletier J, Christiansen C, Brandi M-L, Bruyère O, Chapurlat R, et al. Value of biomarkers in osteoarthritis: current status and perspectives. Annals of the Rheumatic Diseases [Rhyngrwyd]. E-gyhoeddiad 2013 Gor 29 [dyfynnwyd 2013 Gor 30]. Ar gael yn: doi:10.1136/annrheumdis-2013-203726