Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Tudaleniad

This page is also available in English

Tudaleniad

Yn anaml iawn y mae cyfeiriadau at rifau tudalen yn cael eu cynnwys wrth ddyfynnu yn nhestun aseiniad neu draethawd wrth ddefnyddio arddull Vancouver. Fodd bynnag, yn achos dyfyniadau, neu os hoffech fod yn benodol ynglŷn â ffynhonnell gwybodaeth, dyfyniadau neu ystadegau, gellir rhoi rhifau tudalennau neu ffigurau fel isod.

The incidence of the syndrome was rare.[12(fig4)]

Rhifau Tudalen

Ni ddylid ailadrodd rhifau tudalen ac eithrio lle ceir llythyren ar eu hôl. Er enghraifft,  255-9 ond 255A-259A.

Tudaleniad

Os nad yw'r tudalennau wedi'u rhifo, cyfrifwch neu amcangyfrifwch nifer y tudalennau a nodwch y rhif mewn cromfachau sgwâr â'r gair 'tua' o'i flaen, e.e. [6 t.] neu [tua 3 t.]. Os yw'r cyfnodolyn ar-lein yn defnyddio system arall (e.e. rhif erthygl) defnyddiwch honno a rhowch nifer y tudalennau yn y pdf mewn cromfachau sgwâr.