Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Llyfrau

This page is also available in English

Llyfrau

​Rhaid gwneud pob ymdrech i nodi'r awdur yn gywir a allai fod yn gorff corfforaethol megis Bwrdd Gweithredol y GIG, yr Adran Iechyd, Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol. Yn aml, mae cyhoeddiadau gan y cyrff corfforaethol hyn yn cynnwys rhagair - nid awdur y ddogfen yw'r unigolyn sy'n llofnodi hwn o angenrheidrwydd.

Enwau Awduron

Y rheol yn Citing Medicine yw na ddylid defnyddio mwy na dwy flaenlythyren ar gyfer awdur. Mae llawer o gyfnodolion yn rhoi holl flaenlythrennau awduron, a gwelwch fod y rhan fwyaf o feddalwedd llyfryddiaethol yn defnyddio dull tebyg i arddull Vancouver.

Mwy nag un awdur

Y rheol yn Citing Medicine yw y dylid rhoi enwau'r holl awduron, waeth faint ohonynt sydd. Mae rhai cyfnodolion yn gosod uchafswm (fel arfer tua chwe awdur neu fwy) ac mae'n bosib bod eich Adran/Coleg yn defnyddio arddull cyfnodolyn penodol neu ei arddull unigryw ei hun. Rhaid i chi wirio'n ofalus i weld pa reolau dylech eu defnyddio.

Enw'r awdur yn anhysbys - lle nad oes modd dod o hyd i enw awdur/golygydd, rhowch y teitl ar ddechrau'r cyfeiriad. Peidiwch â defnyddio Anhysbys.

Mwy nag un lle cyhoeddi - lle nodir mwy nag un lle, rhowch flaenoriaeth i'r lleoliad yn y DU os yw wedi'i nodi; fel arall, rhowch y lle cyntaf sy'n cael ei nodi.

Lle cyhoeddi yn anhysbys - Os nad yw'r lle yn cael ei nodi, ond mae modd ei wybod o fewn rheswm, rhowch y lle mewn cromfachau sgwâr, Canllaw i gyfeirnodi Vancouver fersiwn 2 12 e.e. [Caerdydd]. Fel arall, nodwch: [lle anhysbys]. Yn yr un modd, os nad yw enw'r cyhoeddwr yn amlwg, rhowch: [cyhoeddwr anhysbys].

Dyddiad cyhoeddi heb ei nodi - os yw dyddiad yr hawlfraint yn hysbys, defnyddiwch hwnnw a rhowch 'c' o flaen y dyddiad, e.e. c1955. Os gallwch amcangyfrif neu ddyfalu'r dyddiad, rhowch y flwyddyn ac wedyn '?' mewn cromfachau sgwâr ar ei ôl, e.e. [1999?]. Os nad oes modd dod o hyd i ddyddiad na'i amcangyfrif, defnyddiwch [dyddiad anhysbys]