Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Awdur

This page is also available in English

Rhaid gwneud pob ymdrech i nodi'r awdur yn gywir

Rhaid gwneud pob ymdrech i nodi'r awdur yn gywir a allai fod yn gorff corfforaethol megis Bwrdd Gweithredol y GIG, yr Adran Iechyd, Llywodraeth Cymru neu'r Cynulliad Cenedlaethol.  Yn aml, mae cyhoeddiadau gan y cyrff corfforaethol hyn yn cynnwys rhagair - nid awdur y ddogfen yw'r unigolyn sy'n llofnodi hwn o angenrheidrwydd.

Enwau Awduron

Y rheol yn Citing Medicine yw na ddylid defnyddio mwy na dwy flaenlythyren ar gyfer awdur. Mae llawer o gyfnodolion yn rhoi holl flaenlythrennau awduron, a gwelwch fod y rhan fwyaf o feddalwedd llyfryddiaethol yn defnyddio dull tebyg i arddull Vancouver.

Enw'r awdur yn anhysbys

Lle nad oes modd dod o hyd i enw awdur/golygydd, rhowch y teitl ar ddechrau'r cyfeiriad. Peidiwch â defnyddio Anhysbys.

Mwy nag un awdur

Y rheol yn Citing Medicine  yw y dylid rhoi enwau'r holl awduron, waeth faint ohonynt sydd. Mae rhai cyfnodolion yn gosod uchafswm (fel arfer tua chwe awdur neu fwy) ac mae'n bosib bod eich Adran/Coleg yn defnyddio arddull cyfnodolyn penodol neu ei arddull unigryw ei hun. Rhaid i chi wirio'n ofalus i weld pa reolau dylech eu defnyddio.