Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Rhestr cyfeiriadau

This page is also available in English

Sut golwg fydd ar fy rhestr gyfeiriadau?

Mae system Vancouver yn rhestru'r cyfeiriadau a ddyfynnwyd ar ddiwedd y testun a rhestrir y cyfeiriadau mewn trefn rifol.

Nid yw Citing Medicine yn nodi pennawd ar gyfer y rhestr gyfeiriadau. Mae'r rhan fwyaf o gyfnodolion yn defnyddio'r pennawd Cyfeiriadau (neu weithiau: CYFEIRIADAU).

Nid yw Citing Medicine yn pennu rheolau ynghylch faint o le ddylai fod rhwng llinellau nac arddull o ran mewnosod paragraffau. (Fel rheol, mae'r rhain yn cael eu pennu gan gyfnodolion unigol yn eu cyfarwyddiadau i awduron).
Dylech bob amser wirio a oes angen i chi ddefnyddio pennawd neu fformat penodol ar gyfer eich rhestr gyfeiriadau, naill ai drwy gyfeirio at eich llawlyfr myfyrwyr neu gyfarwyddiadau aseiniad penodol. Gofynnwch i'ch darlithydd/goruchwyliwr os ydych yn ansicr.
Enghraifft o gynllun posib:

Cydnabyddiaeth

1.      Benton, D. Diet, behaviour and cognition in children. Yn: Kilcast D, Angus F, golygyddion. Developing children's food products. Caergrawnt: Woodhead; 2011. t.62-81.

2.      Drake RL, Vogl W, Mitchell AWM, Gray H. Gray's anatomy for students  [Rhyngrwyd]. ail argraffiad. Philadelphia: Churchill Livingstone/Elsevier; 2010 [dyfynnwyd 2013 Mai 15]. Ar gael yn: http://elsevieruk.pdn.ipublishcentral.com.openathens-          proxy.swan.ac.uk/reader/grays-anatomy-for-students

3.      Grow GO.  Teaching learners to be self-directed.  Adult Educ Q. 1991;41(3):125-49.