Bydd yn bwysig iawn defnyddio cyfnodolion yn eich astudiaethau, oherwydd y byddant yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a chyfredol, o ansawdd uchel. Fel arfer, cyhoeddir cyfnodolion yn rheolaidd, er enghraifft bob wythnos, bob mis neu bob chwarter, ac mae pob rhifyn yn cynnwys casgliad o erthyglau gan awduron gwahanol sydd fel arfer yn trafod yr ymchwil diweddaraf.
Sylwer: Bydd defnyddio erthyglau mewn aseiniadau'n dangos eich bod wedi darllen yn eang am eich pwnc.