Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Awgrymiadau ar Gyfer Cyfeirio Delweddau

This page is also available in English

Awgrymiadau ar Gyfer Cyfeirio Delweddau

Cyfuno nifer o ffynonellau er mwyn creu siart

O-fewn-testun:

Os ydych yn cyfuno gwybodaeth o nifer o ffynonellau er mwyn creu’ch siart eich hun, labelwch eich siart eich hun gan ddefnyddio’r gair Ffigwr a rhowch rifau dilyniannol, e.e. Ffigwr 1.

Rhowch enw ystyrlon i’r siart er mwyn disgrifio’r wybodaeth gyfun.

Ar ddiwedd y teitl, rhestrwch y rhifau cyfeirnodi ar gyfer pob eitem wahanol rydych wedi cyfeirio ati.

Rhestr Gyfeirnodau:

Bydd angen cofnod gwahanol yn eich rhestr Gyfeirnodau ar gyfer pob cyfeirnod i’r wybodaeth rydych wedi ei defnyddio wrth greu’ch siart eich hun, e.e. tablau neu siartiau gwahanol. Hyd yn oed wrth ddefnyddio dau dabl o un erthygl a chyfuno’r wybodaeth yn eich siart eich hun, bydd angen i chi gyfeirnodi pob ffynhonnell ar wahân yn eich rhestr gyfeirnodau, oherwydd bydd teitl gwahanol gan bob tabl yn yr erthygl.

Ar eich rhestr Gyfeirnodau, ar gyfer pob tabl neu siart rydych wedi’i ddefnyddio, ysgrifennwch rif y tabl/siart gwreiddiol a theitl y tabl/siart gwreiddiol fel y ceir yn yr erthygl, a rhif y dudalen lle rhestrir y tabl.

Mae angen i chi ychwanegu [addasedig] ar ddiwedd pob cyfeirnod oherwydd eich bod wedi cyfuno’r wybodaeth wrth greu’ch graff eich hun.

Defnyddio nifer o ddelweddau er mwyn creu delwedd/collage newydd

Os ydych wedi addasu delwedd mewn unrhyw fodd, e.e. dod â nifer o ddelweddau at ei gilydd er mwyn creu collage, ychwanegwch [addasedig] at restr y cyfeirnodau ar ddiwedd pob cyfeirnod rydych wedi’i ddefnyddio er mwyn creu’r ddelwedd.

Creu tabl gan aralleirio gwybodaeth ysgrifenedig

Os ydych wedi creu tabl gan aralleirio gwybodaeth ysgrifenedig o bob erthygl, gellir cyfeirnodi yn yr un modd ag aralleirio o-fewn-testun. Rhowch rif y cyfeirnod ar gyfer pob erthygl rydych wedi’i haralleirio ar ôl pob darn gwahanol o wybodaeth.

Labelwch eich tabl eich hun â’r gair Tabl a rhowch rifau dilyniannol, e.e. Tabl 1. Rhowch enw ystyrlon i’r tabl er mwyn disgrifio’r wybodaeth gyfun.

 

Defnyddio’ch llun, cerdd neu ffotograff eich hun.

Yn y testun, labelwch eich gwaith gan ddefnyddio’r gair Ffigur a chlustnodwch rifau yn eu trefn, e.e. Ffigur 1. Rhowch deitl i’r llun, y gerdd neu’r ffotograff. Peidiwch â rhoi rhif cyfeirio gan mai eich gwaith chi yw hwn.