Y rheol yn Citing Medicine yw y dylid defnyddio byrfoddau safonol ar gyfer teitlau cyfnodolion. Mae cronfa ddata PubMed a chronfeydd eraill yn defnyddio'r byrfoddau hyn. Ar gyfer aseiniadau myfyrwyr, dylech roi enwau cyfnodolion yn llawn. Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn mynnu cael teitlau llawn cyfnodolion mewn gwaith i'w asesu. (Os ydych yn ysgrifennu gwaith i'w gyhoeddi, dylech ddilyn y cyngor a geir yn adran Cyfarwyddiadau i Awduron y cyfnodolyn y byddwch yn cyflwyno iddo.)