Tudalen(nau) (g)wê/siartiau/tablau/delweddau/cronfa ddata unigol mewn gwefan
Sylwer: Defnyddiwch hwn wrth gyfeirio at ran o wefan NAD yw’r rhan honno wedi’i chreu gan y cwmni sydd wedi creu’r wefan, e.e. delwedd sydd ar gael i bawb ar y wefan Creative Commons.
Os ydych yn cyfeirnodi delwedd, mae’n rhaid i chi wirio’r hawliau priodoli.
Ceir rhagor o wybodaeth am ddarganfod delweddau sydd ar gael i bawb, a hawliau priodoli, ar: https://libguides.swansea.ac.uk/copyright/images).
Os bydd y ddelwedd ar gael i bawb, dylech gyfeirnodi yn y modd canlynol:
Awdur(on) (y llun/table/ffigur ayb).
Teitl (y llun/table/ffigur ayb).
[Natur y cyfrwng gan ddefnyddio llythrennau bach]. e.e. [pelydr-x].
Teitl y wefan os bydd ar gael/yn berthnasol e.e. Flickr [rhyngrwyd].
Man Cyhoeddi: (os bydd ar gael)
Cyhoeddwr; (os bydd ar gael)
Blwyddyn Gyhoeddi
[blwyddyn mis dydd nodedig].
Ar gael ar: URL
Os ydych wedi addasu’r ddelwedd/siart/tabl o gwbl, ychwanegwch [addasedig] mewn cromfachau sgwâr ar ddiwedd y cyfeirnod.
Er mwyn tynnu sylw at drwydded Creative Commons, gellir ychwanegu nodyn atodol i’r cyfeirnod, gan restru llythrennau/rhifau’r drwydded.Priflythyren ar ddechrau’r nodyn, atalnod llawn ar y diwedd. e.e.: Atgynhyrchwyd gan ddefnyddio trwydded CC-O.
Enghraifft
Astley S. FASD 4-digit diagnostic code: lip-philtrum guide 1. [photographs]. In: Lip-philtrum guides [Internet]. Washington: University of Washington; 2014 [cited 2020 May 1]. Available from: https://depts.washington.edu/fasdpn/htmls/lip-philtrum-guides.htm
Enghraifft o ddelwedd nad adnabyddir yr awdur:
FASD 4-digit diagnostic code: lip-philtrum guide 1. [photograph]. In: Lip-philtrum guides [Internet]. Washington: University of Washington; 2014 [cited 2020 May 1]. Available from: https://depts.washington.edu/fasdpn/htmls/lip-philtrum-guides.htm
Enghraifft o ddelwedd nad abnabyddir yr awdur na'r teitle:
[Lip-philtrum chart] [photograph]. In: Lip-philtrum guides [Internet]. Washington: University of Washington; 2014 [cited 2020 May 6]. Available from: https://depts.washington.edu/fasdpn/htmls/lip-philtrum-guides.htm