Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver (Ar-lein): Yr Hanfodion

This page is also available in English

Llyfrgell Prifysgol Abertawe - Arddull cyfeirnodi Vancouver

Mae Canllaw Llyfrgell Prifysgol Abertawe i Arddull Vancouver yn seiliedig ar Citing Medicinethe NLM style guide for authors, editors & publishersCiting Medicine yw'r canllaw swyddogol i arddull Vancouver. Gallwch ddod o hyd i ganllawiau i arddull Vancouver neu weld amrywiadau ar yr arddull mewn cyfnodolion gwahanol. Yn benodol, gellir ymdrin â dyfyniadau eilaidd yn wahanol. Bydd cyfnodolion hefyd yn pennu rheolau gwahanol ynghylch a ddylai rhifau yn y testun fod y tu mewn i atalnodau neu'r tu allan iddynt. Dilynwch y cyngor isod a chyfeiriwch at Citing Medicine neu cysylltwch â'r Llyfrgell am ragor o gyngor. Hwnnw felly, os caiff ei ddyfynnu eto yn y testun, bydd yr un rhif ganddo. Y cyfeiriad cyntaf a ddyfynnir fydd rhif 1 bob tro a dyrennir rhifau yn eu trefn.

Canllaw i gyfeirnodi Vancouver

Mae arddull Vancouver yn system rifiadol. Cafodd ei datblygu mewn cyfarfod o olygyddion cyfnodolion biofeddygol ym 1978, ac mae wedi cael ei mabwysiadu'n helaeth gan gyfnodolion mewn sawl disgyblaeth, yn enwedig y gwyddorau ffisegol.

Dynodir rhif (Arabaidd) i bob cyfeiriad y tro cyntaf iddo ymddangos yn y testun. Y rhif a roddir fydd y dynodwr unigryw ar gyfer y cyfeiriad.

Cydnabod o fewn y testun

Gellir ysgrifennu rhif y cyfeiriad mewn cromfachau crwm (1), cromfachau sgwâr neu [1] neu fel uwchnod1 . Os ydych yn defnyddio meddalwedd llyfryddiaethol Endnote i reoli'ch cyfeiriadau, byddwch yn gweld bod arddull Vancouver Endnote yn defnyddio cromfachau crwm yn Canllaw i gyfeirnodi Vancouver fersiwn 2 5 awtomatig. Gallwch ddefnyddio hyn pan fydd angen i chi ddefnyddio cromfachau crwm at ddiben arall (megis rhifo hafaliadau). 

Cydnabyddiaeth

Cydnabyddiaeth

1. Patrias, K. Citing medicine: the NLM style guide for authors, editors and publishers [Internet]. 2nd ed. Wendling, DL, technical editor. Bethesda (MD): National Library of 1. Medicine (US); 2007 – [updated 2015 Oct 2; cited 2018 May 31]. Ar gael yn: https://www.ncbi.nlm.nih.gov/books/NBK7256/

2.Y Sefydliad Safonau Prydeinig BS 5605.  Recommendations for citing and referencing published material. Llundain: BSI; 1990.

3. Lyfrgell Prifysgol Birmingham.. Vancouver Referencing Handbook [Internet]. Birmingham: Birmingham University Library; 2016 [cited 2018 April 27]. Ar gael yn: https://intranet.birmingham.ac.uk/as/