Isod fe welwch chi arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi geiriadur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeiriadau ar y diwedd.
Nid yw’r ffynhonnell hon yn cael ei chynnwys yn llawlyfr Arddull APA. Dylech hefyd wirio gyda’ch darlithydd wrth ddefnyddio’r awgrymiadau hyn.
Mae’n anghyffredin i gofnod geiriadur fod ag enw awdur. Os oes enw awdur ar y cofnod, dylech ddefnyddio enw’r awdur fel arfer. Os nad oes awdur wedi’i enwi, dylech ddefnyddio teitl y cofnod yn lle enw’r awdur.
Enghraifft:
("Jejunum", 2003)
Teitl y cofnod. (Blwyddyn). Yn Enw’r gwyddoniadur neu’r geiriadur (Rhif y gyfrol os oes un). Lle: Cyhoeddwr.
Os ydych yn defnyddio geiriadur ar-lein, rhowch Adalwyd o URL yn lle Lle: Cyhoeddwr
Enghreifftiau:
Jejunum. (2003). In Merriam-Webster's dictionary (11th ed.). Springfield: Merriam-Webster.
Acetone. (2012). In Macmillan dictionary. Retrieved from http://www.macmillandictionary.com/dictionary/british/acetone