Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn sydd â dau awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Os oes gan waith ddau awdur, dylech gyfeirio at y ddau ohonynt.
Enghraifft:
Mae Kwiecinski a Rothschild (2016) yn nodi bod...
NEU
...(Kwiecinski & Rothschild, 2016).
Sylwer: Cysylltwch enwau'r ddau awdur ag a/ac pan fyddwch yn eu henwi y tu allan i gromfachau. Cysylltwch yr enwau ag ampersand (&) y tu mewn i gromfachau.
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen, & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan os oes angen), rhifau tudalennau.
Example:
Kwiecinski, J., & Rothschild, B. (2016). No rheumatoid arthritis in ancient Egypt: A reappraisal. Rheumatology International, 36, 891-895.