Isod ceir arweiniad ac enghreifftiau o sut i gyfeirnodi gwaith mewn antholeg yng ngorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeiriadau ar y diwedd.
Dylai gwaith mewn antholeg gael ei restru fel pennod mewn llyfr golygedig. Dylid defnyddio awdur y gwaith ar gyfer cyfeirio yn y testun. Gallwch ddefnyddio system dyddiad cyfunedig lle mai’r dyddiad cyntaf yw’r dyddiad gwreiddiol a’r ail yw dyddiad yr anthloeg.
Enghraifft:
Noda Wordsworth a Coleridge (1798/2012) fod…
NEU
... (Wordsworth & Coleridge, 1798/2012).
Cyfenw, blaenlythrennau. (Blwyddyn). Teitl y bennod. Yn blaenlythyren. Cyfenw (Goln), Teitl y llyfr (argraffiad, tudalennau’r bennod). Lle: Cyhoeddwr.
Enghraifft:
Wordsworth, W., & Coleridge, S. T. (1798). Lyrical ballads. In D. Wu (Ed.), Romanticism: An anthology (pp. 333-415). Cambridge: Cambridge University Press.