Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (6ed arg.) (Ar-lein): Erthygl mewn cyfnodolyn gyda tri, pedwar a phum awdur

This page is also available in English

Erthygl mewn cyfnodolyn gyda tri, pedwar a phum awdur

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn sydd â tri, pedwar a phum awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Os oes gan waith dri, pedwar neu bum awdur, dylech gyfeirio at bob un ohonynt y tro cyntaf. Wedi hynny, defnyddiwch et al. ar ôl yr awdur cyntaf.

Dyfyniad cyntaf:
Yn ôl Ashley, Kibbe a Thornton (2014)...
NEU
...(Ashley, Kibbe, & Thornton, 2014).

Sylwer: Mae atalnod ar ôl yr awdur olaf ond un.

Pob tro wedi hynny:
Yn ôl Ashley et al. (2014)....
NEU
...(Ashley et al., 2014).

Rhestr cyfeiriadau

CyfenwLlythyren/Llythrennau blaen, & ChyfenwLlythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan os oes angen), rhifau tudalennau.

Example:
Ashley, C., Kibbe, S., & Thornton, S. (2014). Experiential learning in second Life: A simulation in 
retail management. Atlantic

            Marketing Journal, 3(2), 94-113.