Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (6ed arg.) (Ar-lein): Delweddau

This page is also available in English

Delweddau a thablau

Mae ffigurau'n cynnwys graffiau, delweddau, siartiau, mapiau, sgrinluniau, ffotograffau, darluniau ac ati. Mae tablau'n cynnwys testun a/neu rifau a drefnir mewn colofnau a rhesi.

Pan fyddwch yn cynnwys ffigur neu dabl, efallai y bydd angen i chi gyfeirio at yr eitem nifer o weithiau.

  • Yn y pennawd (uwchben tabl neu islaw ffigur).
  • Yn y testun.
  • Yn y rhestr gyfeiriadau.

Mewn dogfennau mwy, megis traethodau hir, mae angen i chi gynnwys rhestr ar wahân o ffigurau/rhestr o dablau.

Cydnabod o fewn y testun

Dylid labelu'r ffigur cyntaf (graff, siart, delwedd) rydych yn ei gynnwys yn eich aseiniad fel Ffigur 1: a'i ysgrifennu mewn italig gan roi colon ar ei ôl. Ar ôl y colon, mewn ysgrifen arferol, ychwanegwch frawddeg i ddisgrifio cynnwys y graff.

Cyfeirnod pennawd ar gyfer figwr

Os ydych yn cyfeirnodi tabl, rhowch label Tabl 1 arno: a'i ysgrifennu mewn italig gan roi colon ar ei ôl. Yna, dylai pob un ohonynt gynnwys eich dyfyniad yn rhan o'r testun i alluogi'r defnyddiwr i ddod o hyd i'r ffynhonnell yn y rhestr gyfeiriadau/llyfryddiaeth.

Cyfeirnod pennawd ar gyfer tabl

Dylid labelu tablau, graffiau neu siartiau dilynol fel Ffigur 2: neu Dabl 2: yn dibynnu ar y cynnwys, yna Ffigur 3: neu Dabl 3: ac yn y blaen, a dylai pob un ddisgrifio’r cynnwys.

Defnyddio delweddau gwreiddiol (Crëwyd gennych chi)

Os ydych chi'n defnyddio'ch delweddau eich hun (ee: ffotograff eich hun) does ond angen i chi gynnwys pennawd. Nid oes angen dyfyniad mewn testun na chynnwys yn eich rhestr gyfeiriadau.

Rhestr cyfeiriadau

Awdur/Crëwr. (Dyddiad cyhoeddi). Teitl [Cyfrwng ee: Ffotograff, Delwedd digidol]. Adalwyd o URL

Enghraifft:

Prifysgol Abertawe. (d.d.). Llyfrgell Prifysgol Abertawe [Ffotograff].

           Adalwyd o http://www.swansea.ac.uk/library/

Datganiad hawlfraint yn y testun

I gael y manylion llawn am ysgrifennu datganiadau hawlfraint mewn testun, ewch i'r Blog APA a darllenwch yr enghreifftiau y maen nhw wedi'u darparu.

Os ydych yn cynnwys ffigurau a thablau, sicrhewch eich bod yn gweithio yn unol â'r ddeddfwriaeth hawlfraint. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth gan Brifysgol Abertawe ar ein tudalennau Hawlfraint: Defnyddio Delweddau.

Defnyddio delweddau

Fe'ch cynghorir i wirio dogfennau eich modiwl i sicrhau bod defnyddio delweddau a thablau yn eich gwaith yn rhan o’r modiwl yn dderbyniol. Mae’n well gan rai ysgolion eich bod yn dyfynnu'r wybodaeth yn eich dogfen ac yn cynnwys y cyfeirnod yn eich rhestr gyfeiriadau yn hytrach na rhoi delwedd yn eich gwaith.