Nid yw canllaw arddull APA yn rhoi canllawiau penodol i ni am osod cyfeiriadau mewn gwaith sydd wedi'i gyfieithu. Fodd bynnag, mae Prifysgol Purdue yn rhoi'r cyngor isod.
Mae Laplace (1814/1951) yn nodi bod...
NEU
…(Laplace, 1814/1951).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). (Llythrennau blaen. Cyfenw, Cyf.). Man cyhoeddi: Cyhoeddwr. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol bbbb).
Enghraifft:
Laplace, P. S. (1951). A philosophical essay on probabilities. (F. W. Truscott & F. F. L. Emory, Cyf.).
New York: Dover. (Cyhoeddwyd y gwaith gwreiddiol 1814).
Sylwer: Pan fyddwch yn dyfynnu gwaith a ailgyhoeddwyd, megis y gwaith uchod yn eich testun, dylai ymddangos gyda'r ddau ddyddiad: Laplace (1814/1951).