Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn sydd â chwe awdur neu ragor yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Os oes chwe awdur neu ragor, dim ond yr awdur cyntaf y cyfeirir ato cyn nodi et al.
Mae Allen et al. (2010) yn nodi bod...
NEU
...(Allen et al., 2010).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen, & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan os oes angen), rhifau tudalennau.
Enghraifft:
Tapper, K., Shaw, C., Ilsely, J., Hill, A. J., Bond, F. W., & Moore, L. (2009). Exploratory randomised controlled trial of a
mindfulness-based weight loss intervention for women. Appetite, 52, 396-404.
Sylwer: Os oes gan gyfeiriad 8 awdur neu ragor, rhestrir y chwe awdur cyntaf wedyn ... ac enw'r awdur olaf.
Enghraifft:
Allen, S.J., Jordan, S., Storey, M., Thornton, C.A., Gravenor, M., Garaiova, I.,...Morgan, G. (2010). Dietary supplementation
with lactobacilli and bifidobacteria is well tolerated and not associated with adverse events during late pregnancy
and early infancy. The Journal of Nutrition, 140, 483-488.