Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn cyfnodolyn ar-lein yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft:
Mae Gilmore a Millar (2018) yn nodi bod...
NEU
...(Gilmore & Millar, 2018).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen,. & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl yr erthygl. Teitl y Cyfnodolyn, Rhif y Gyfrol(rhifyn neu rif y rhan os oes angen), rhifau tudalennau. DOI neu Adalwyd o URL
Enghraifft:
Dearman, D., Lechner, T. A., & Shanklin, S. B. (2018). Demand for management accounting information in small
businesses: Judgment performance in business planning. International Journal of the Academic Business World,
12, 93-102. Adalwyd o http://jwpress.com/IJABW/Issues/IJABW-Spring-2018.pdf#page=99
Gilmore, A. & Millar, N. (2018). The language of civil engineering research articles: A corpus-based approach. English for Specific Purposes, 51, 1-17. doi:10.1016/j.esp.2018.02.002
Sylwer: Os yw’r fersiwn ar-lein yr un fath â’r fersiwn a argraffwyd, dylech ei chyfeirnodi yn yr un modd â’r erthygl yn y cyfnodolyn a argraffwyd. Os yw'n wahanol, nodwch y Dynodwr Gwrthrych Digidol (DOI). Côd rhifol hir unigryw yw DOI. Os nad yw’r côd hwn ar gael, defnyddiwch URL yn lle hynny.