Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”
Dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Dylech wirio:
Enghraifft:
Y tro cyntaf:
Mae'r National Institute for Health and Care Excellence (NICE, 2020) yn nodi bod...
NEU
...(National Institute for Health and Care Excellence (NICE), 2020).
Pob tro wedi hynny:
Mae NICE (2020) yn nodi bod...
NEU
...(NICE, 2020).
Sylwer: Os byddwch yn defnyddio’r un dyfyniad sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.
Awdur. (Blwyddyn). Teitl. Adalwyd o URL
OR
Awdur. (Blwyddyn). Teitl. Adalwyd Mis diwrnod, blwyddyn, o URL
Enghraifft:
American Psychological Association. (2019). APA style blog: 6th edition archive. Retrieved June 2, 2020, from https://blog.apastyle.org/apastyle/apa-style-blog-6th-edition-archive.html?_ga=2.92688349.1180441710.1591112047-1187154830.1589217496
National Institute for Health and Care Excellence. (2020). Type 2 diabetes in adults: Management. Retrieved from https://www.nice.org.uk/guidance/ng28
Sylwer:
Rhowch y dyddiad y cafodd y wybodaeth ei gyrchu yn unig os yw'r wefan yn debygol o newid yn aml, er enghraifft, wrth gyfeirnodi cofnod blog. Os "cyhoeddwyd yr wybodaeth ar ddyddiad (blwyddyn) penodol", nid oes angen nodi'r dyddiad cyrchu. Fel arfer, awdur corfforaethol fydd awdur gwefan. Fodd bynnag, os ydych yn dyfynnu dogfen benodol ar wefan, efallai y bydd awduron personol.