Cyfeirnodi eilaidd
Dyma pan fydd angen i chi gyfeirio at waith awdur heb ddarllen y gwaith gwreiddiol, ond rydych wedi dysgu amdano gan awdur arall. Defnyddiwch y gwaith gwreiddiol lle bynnag y bo modd. Os nad yw hyn yn ymarferol, rhaid i chi egluro eich bod heb ddarllen y gwreiddiol drwy gyfeirio at y gwaith lle daethoch o hyd i’r cyfeiriad ato.
Er enghraifft:
Mae Gibbs (1988) a ddyfynnir yn Jasper (2013) yn dangos bod...
NEU
Mae cylch adlewyrchol Gibbs yn theori bwysig ym maes ymarfer myfyriol (Gibbs, 1988, dyfynnwyd yn Jasper, 2013).
Yn y rhestr gyfeiriadau dylech gynnwys manylion y gwaith rydych wedi’i ddarllen yn unig
Jasper, M. (2013). Beginning reflective practice (2il arg.). Andover: Cengage Learning.