Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (6ed arg.) (Ar-lein): Erthygl mewn papur newydd

This page is also available in English

Erthygl mewn papur newydd

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at erthygl mewn papur newydd yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Enghraifft:

Mae Ruddick (2013) yn nodi bod...
NEU
...
(Ruddick, 2013).

Rhestr cyfeiriadau

Awdur, A.A. (dyddiad). Teitl yr erthygl. Teitl y Papur Newydd, xx, t. neu tt.

Mae xx yn dynodi colofn neu adran (yn ddefnyddiol oherwydd bod llawer o bapurau newydd argraffedig yn cynnwys adrannau â dilyniannau rhifau ar wahân). 

Wedi'i argraffu

Ruddick, G. (2013, Hydref 3). Tesco suffers sales slump in all global businesses; UK rivals gain ground but boss Clark

           confident turnaround plan is working. Daily Telegraph, Business News, t. 1

Ar-lein

Graham, N. (2013, Awst 31). A business built on data innovation and clubcard points. Financial Times. Adalwyd o 

http://www.proquest.com-en-US/products/feature01_package.shtml

Rhowch URL yr hafan pan fydd modd chwilio am yr erthygl ar-lein i osgoi rhoi URL newidiol.