Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at e-lyfr yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Mae Cottrell (2019) yn nodi bod...
NEU
…(Cottrell, 2019).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl (arg.). Adalwyd o URL
Enghraifft:
Cottrell, S. (2019). The study skills handbook (5ed arg.). Adalwyd o http://www.dawsonera.com
Sylwer: Dylech gyfeirnodi e-lyfr yn yr un modd â llyfr argraffedig; yn lle'r lleoliad a'r cyhoeddwr, rhowch URL y casgliad o e-lyfrau neu'r e-lyfr.