Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.
Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.
Croeso i'r canllaw byr hwn am sut i gyfeirnodi'n gywir gan ddefnyddio arddull gyfeirnodi American Psychological Association (APA). Os nad ydych wedi defnyddio arddull gyfeirnodi APA o'r blaen, dechreuwch gyda'r tab 'hanfodion' ar y tudalennau hyn i gael argymhellion am yr hyn sydd ei angen. Rydym hefyd yn argymell eich bod yn gwylio'r tiwtorialau ar-lein sydd ar gael ar y tudalennau cartref hyn.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.