Defnyddiwch yr awdur(on) personol neu'r golygydd(ion) os yw wedi'i restru ar yr adroddiad, fel arall defnyddiwch enw awdur y grŵp.
Enghraifft:
Y tro cyntaf:
Mae'r National Institute for Health and Care Excellence (NICE, 2020) yn nodi bod...
NEU
...(National Institute for Health and Care Excellence (NICE), 2020).
Pob tro wedi hynny:
Mae NICE (2020) yn nodi bod...
NEU
...(NICE, 2020).
Sylwer: Os byddwch yn defnyddio’r un dyfyniad sawl gwaith yn eich aseiniad, defnyddiwch acronymau. Rhaid i chi egluro’r acronym yn llawn y tro cyntaf, gyda’r acronym ei hun, fel bod yr ystyr yn amlwg i’r darlithydd.
Cyhoeddiad Swyddogol Ar-lein
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. neu Awdur Corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl (Rhif y gyfres neu rif cyfeirio os yw ar gael). Adalwyd o URL
Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry. (2013). Report of the Mid Staffordshire NHS Foundation Trust Public Inquiry: Executive summary (HC 931). Adalwyd o https://assets.publishing.service.gov.uk/government/uploads/system/uploads/attachment_data/file/279124/0947.pdf
Cyhoeddiad Swyddogol Printiedig
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. neu Awdur Corfforaethol. (Blwyddyn). Teitl (Rhif y gyfres neu rif cyfeirio os yw ar gael). Man cyhoeddi: Cyhoeddwr
National Institute for Health and Care Excellence. (2020). Type 2 diabetes in adults: Management (NG28). London: National Institute for Health and Care Excellence.