Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd wedi'i olygu yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft 1:
Mae Anderson (2006) yn nodi bod...
NEU
...(Anderson, 2006).
Enghraifft 2: Am 3-5 golygyddion:
Y tro cyntaf:
Mae Cassell, Cunliffe a Grandy (2018) yn nodi bod...
NEU
....(Cassell, Cunliffe, & Grandy, 2018).
Pob tro wedi hynny:
Mae Cassell et al. (2018) yn nodi bod...
NEU
...(Cassell et al., 2018).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Gol.). (Blwyddyn). Teitl (arg.). Man cyhoeddi: Cyhoeddwr.
Sylwer: Defnyddiwch (Gol.) os oes un golygydd a (Goln.) os oes dau neu ragor o olygyddion.
Enghraifft 1:
Anderson, L. (Gol.). (2006). Creative writing: A workbook with readings (2il arg.). Abingdon: Routledge.
Enghraifft 2:
Cassell, C., Cunliffe, A. L., & Grandy, G. (Goln.). (2018). The Sage handbook of qualitative business and management research
methods. London: Sage.