Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at fideo YouTube yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.
Enghraifft:
Mae Grady (2017) yn dangos bod...
NEU
...(Grady, 2017).
Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. [Enw Sgrin]. (Blwyddyn, Mis dydd). Teitl y fideo [Feil fideo]. Adalwyd o URL
Enghraifft:
Grady, J. (2017, Hydref 15). How to use YouTube for lecturers [Feil fideo]. Adalwyd o
https://www.youtube.com/watch?c+h7TfJ9Fre
Sylwer: Mae enwau sgrin yn fwy amlwg nag enwau go iawn ar YouTube. Os ydych yn dod ar draws defnyddiwr nad yw ei enw go iawn ar gael, defnyddiwch ei enw sgrin heb gromfachau yn unig.