Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull APA (6ed arg.) (Ar-lein): Llyfr â tri, pedwar a phum awdur

This page is also available in English

Llyfr â tri, pedwar a phum awdur

Gweler isod gyfarwyddyd ac enghreifftiau ynghylch sut i osod cyfeiriad at lyfr sydd â tri, pedwar a phum awdur yng nghorff eich gwaith ac yn y rhestr gyfeirio ar y diwedd.

Cydnabod o fewn y testun

Os oes gan waith dri, pedwar neu bum awdur, dylech gyfeirio at bob un ohonynt y tro cyntaf. Wedi hynny, defnyddiwch et al. ar ôl yr awdur cyntaf.

Y tro cyntaf:
Yn ôl Phillips, Ajrouch a Hillcoat-Nalletamby (2010)....
NEU
...(Phillips, Ajrouch, & Hillcoat-Nalletamby, 2010).

Sylwer: Mae atalnod ar ôl yr awdur olaf ond un.

Pob tro wedi hynny:
Yn ôl Phillips et al. (2010)....
NEU
...(Phillips et al., 2010).

Rhestr cyfeiriadau

Cyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen., & Chyfenw, Llythyren/Llythrennau blaen. (Blwyddyn). Teitl. Man Cyhoeddi: Cyhoeddwr.

Enghraifft:
Phillips, J., Ajrouch, K., & Hillcoat-Nalletamby, S. (2010). Key concepts in social gerontology. London: Sage.