Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Rhaglen radio

I gyfeirio at wybodaeth o ddarllediad radio, dylech gynnwys enw'r siaradwr (os yw'n ddyfynbris uniongyrchol) a theitl y rhaglen. Dilynir hyn gan yr orsaf radio a'r dyddiad darlledu mewn cromfachau. Os nad oes siaradwr amlwg, dechreuwch gyda theitl y rhaglen. Os yw'r rhaglen ar gael ar-lein, cynhwyswch yr URL a'r dyddiad mynediad.

Enghraifft: Simon Tonking, 'Jury Trial' (BBC radio 4, 1 Mai 2010) <www.bbc.co.uk/programmes/b))s3gq> cyrchwyd ar 15 Chwefror 2013.

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.

Rhaglen Teledu

I gyfeirio gwybodaeth o raglen deledu, dylech gynnwys enw'r siaradwr (os yw dyfynbris uniongyrchol a theitl y rhaglen, ac yna enwau'r orsaf deledu a'r dyddiad darlledu mewn cromfachau. Os oes gennych ddolen ar-lein gallwch wedyn ychwanegu'r URL a'r dyddiad mynediad.

Enghraifft: Peter Wildeblood, 'against the Law' (BBC Two, 26 Gorffennaf 2017) <www.bbc.co.uk/programmes/p057nmkt> accessed 6 August 2017

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.