Dylid cynnwys dyfyniadau byr o dair llinell neu lai yn y testun o fewn dyfynodau sengl.
Enghraifft:
Mae Herring yn rhoi'r diffiniad o ddynladdiad gwirfoddol fel sefyllfa lle 'the defendant would be guilty of murder but for the existence of a special defence.'
Dylid gosod dyfyniadau hir mewn paragraff wedi’i fewnoli. Nid oes angen i chi ddefnyddio dyfynodau heblaw am ddyfynodau sengl o amgylch dyfyniadau o fewn dyfyniadau. Gadewch le ar ddwy ochr y dyfyniad wedi'i fewnoli a chyflwynwch y dyfyniad gyda cholon.
Enghraifft:
Rhesymodd yr Arglwydd Hoffman fel a ganlyn:
It seems to me logical to found liability for damages up to the intention of the parties (objectively ascertained) because all contractual liability is voluntarily undertaken. It must be in principle wrong to hold someone liable for risks for which people entering into such a contract in their particular market, would not reasonably be considered to have undertaken.
Hepgoriadau o Ddyfyniadau
Os yw testun yn cael ei dynnu o ddyfyniad am resymau eglurder a hyd neu os yw'n gorffen canol y frawddeg yn y testun gwreiddiol, defnyddiwch elipsis (...) i nodi bod peth o'r testun gwreiddiol ar goll. Gadewch le rhwng elipsis ac unrhyw destun neu atalnodi, ac eithrio dyfynodau.
Enghraifft:
Mae Elliott a Quinn yn esbonio'r gwahanol fathau o niwsans mewn camwedd:
There are actually three types of nuisance: private, public and statutory. Private nuisance is a common law tort and the main subject of this chapter. Public nuisance is a crime ... but it also comes into the study of tort because there are some cases where parties who have suffered as a result of public nuisance can sue in tort.
Mewnosod eich geiriau eich hun mewn Dyfyniad
I fewnosod eich geiriau eich hun yn y dyfyniad i sicrhau ei fod yn gwneud synnwyr gramadegol yn eich gwaith, ysgrifennwch eich geiriau mewn [cromfachau sgwâr] i'w gwahaniaethu oddi wrth eiriau'r awdur. Byddwch yn ofalus i beidio â newid ystyr y dyfyniad trwy ychwanegu neu dynnu gormod o eiriau.