Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Enwau’r barnwyr

Wrth gyfeirio at farnwr mewn achos defnyddiwch gyfenw'r barnwr ac yna'r talfyriad ar gyfer eu swydd farnwrol.

Enghreifftiau:

  • Yr Arglwydd Smith SCJ ar gyfer Ustus y Goruchaf Lys, yr Arglwydd Smith', barnwr y Goruchaf Lys.
  • Yr arglwydd Smith neu’r Arglwyddes Smith ar gyfer Barnwr yn Nhŷ’r Arglwyddi. Os yw gradd y barnwr fel arglwydd yn uwch, defnyddiwch y teitl yn hytrach na hyn.
  • Smith LJ ar gyfer 'Ustus, yr Arglwydd Smith' neu Ustus, yr Arglwyddes Smith, barnwr Llys Apêl. Os yw’r barnwr yn arglwydd, yna dylid cyfeirio ato/ati fel yr Arglwydd Smith neu’r Arglwyddes Smith
  • Smith J ar gyfer Mr Ustus Smith neu Mrs Ustus Smith, barnwr Uchel Lys

Ni ddefnyddir enwau cyntaf oni bai bod dau farnwr â'r un cyfenw, ac os felly rhoddir cyfenw cyntaf a chyfenw'r barnwr mwyaf iau o'r ddau.

Isod mae enghreifftiau o enwau barnwyr a ddefnyddir yn y testun ac mewn troednodiadau.

Enwau barnwyr a ddefnyddir yn y testun

Gwrthododd yr Arglwydd Woolf y ddadl hon oherwydd ...

Mae hyn yn amlwg o'r penderfyniad yn Horncastle, lle dywedodd yr Arglwydd Phillips P ...

Roedd Rimer a Pill LJJ o'r farn bod ...

Fel y nododd Tugendhat J yn Ajinomoto Sweeteners

Enwau barnwyr a ddefnyddir mewn troednodiadau

Crown River Cruises Ltd v Kimbolton Fireworks Ltd [1996] 2 Lloyd's Rep 533 (QB) 547 (Potter J)

Graham and Graham v ReChem International Ltd [1996] Env LR 158 (QB) 162 (Forbes J)

Arscott v The Coal Authority [2004] EWCA Civ 892, [2005] Env LR 6 [27] (Laws LJ)