Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) a'r Llys Cyffredinol (GC)

Mae Llys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd (CJEU) yn cynnwys dau lys ar wahân. Llys Cyfiawnder Ewrop (ECJ) yw goruchaf lys yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer cyfraith yr UE ac mae'n gwrando achosion o lysoedd cenedlaethol ac achosion apelio ac mae'r Llys Cyffredinol (GC) yn gwrando achosion gan unigolion a chwmnïau yn bennaf.

Er 1989 mae achosion yr UE a glywir yn yr ECJ wedi'u rhagddodi â C - ac mae gan y rhai a glywir yn y GC T - fel rhagddodiad.

Cyfeiriwch at yr adroddiadau swyddogol lle cyfeirir atynt fel ECR. Adroddir am achosion ECJ yng nghyfrol 1 (ECR l -) ac adroddir am achosion GC yng nghyfrol 2 (ECR II -). Nid oes gan achosion a glywyd cyn 1989 ragddodiad.

Os nad oes cyfeiriad ECR, defnyddiwch yr Adroddiadau Cyfraith Marchnad Gyffredin (CMLR).

Ond os yw'r achos wedi cael ei adrodd yn yr Adroddiadau Cyfraith, The Weekly Law Reports a / neu Adroddiadau Cyfraith All England (Achosion Ewropeaidd), defnyddiwch hynny yn lle'r CMLR.

Troednodyn

Fformat achos gan ECR:

 Rhif achos | enw achos mewn llythrennau italig | [blwyddyn] | ECR | cyfrol- | tudalen gyntaf

Enghreifftiau: 

Case 240/83 Procureur de la Republique v ADBHU [1985] ECR 531.

Case T - 344/99 Arne Mathisen AS v Council [2002] ECR II-2905.

Case C - 176/03 Commission v Council [2005] ECR I-7879, paras 47- 48.

Fformat achos ECJ heb ei adrodd:

Rhif achos | [blwyddyn] | Cyfres OJ | rhifyn / tudalen gyntaf

Enghraifft:

Case C-527/15 Stichting Brein v Jack Frederik Wullems [2017] OJ C195/02.

Llyfryddiaeth

Fformat achos gan ECR:

Enw'r achos | (Rhif achos) | [blwyddyn] | ECR | cyfrol- | tudalen gyntaf

Enghreifftiau:

Procureur de la Republique v ADBHU (Case 240/83) [1985] ECR 531

Arne Mathisen AS v Council (Case T-344/99) [2002] ECR II-2905

Commission v Council (Case C-176/03) [2005] ECR I-7879

Case C-527/15 Stichting Brein v Jack Frederik Wullems [2017] OJ