Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Pinbwyntio yn y testun (cyfeirio at dudalen neu baragraff penodol)

Mae pinbwyntio yn gyfeiriad at baragraff penodol o ddyfarniad neu dudalen o adroddiad a ddaw ar ddiwedd y dyfyniad. Fel arfer, rhif tudalen fydd y pinpoint ond gyda dyfarniadau, yn enwedig gyda dyfyniadau niwtral, defnyddiwch rif paragraff yn lle. Dylid amgáu rhif y paragraff mewn cromfachau sgwâr [ ].

Ar gyfer Dyfarniadau ac Adroddiadau:

  • Os ydych chi'n pinbwyntio at fwy nag un paragraff, gwahanwch y rhifau paragraff mewn cromfachau sgwâr â choma.
  • Os ydych yn nodi rhychwant o baragraffau, rhowch linell doriad rhwng y paragraff cyntaf a’r olaf sy’n cael ei nodi.

Ar gyfer deunyddiau eraill:

  • Defnyddiwch pt wrth nodi rhan, ch ar gyfer pennod a para ar gyfer paragraff.
  • Os ydych chi'n dyfynnu pennod, rhan, paragraff neu rif tudalen, mewnosodwch atalnod cyn y rhif.
  • Os ydych chi'n nodi mwy nag un rhif tudalen, gwahanwch nhw â choma.

Isod mae rhai enghreifftiau o pinbwyntio.

Enghreifftiau o binbwyntio

Callery v Gray [2001] EWCA Civ 1117, [2001] 1 WLR 2112 [42], [45].

Bunt v Tilley [2006] EWCH 407 (QB), [2006] 3 All ER 336 [1] - [37].

Beattie v  E & F Beattie Ltd [1938] Ch 708 (CA) 720, 723.

Llyfryddiaeth

Ni ddefnyddir pinbwyntio yn y llyfryddiaeth.

Enghreifftiau o achosion heb nodi:

Callery v Gray [2001] EWCA Civ 1117, [2001] 1 WLR 2112

Beattie v E & F Beattie Ltd [1938] Ch 708 (CA) 720