Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Biliau

I greu cyfeiriad at Fil, defnyddiwch deitl y Bil a'r Tŷ y cafodd ei gynnig yn wreiddiol. Dilynir hyn gyda'r sesiwn Seneddol mewn cromfachau a'r rhif rhedeg a roddir iddo.

Biliau Tŷ'r Cyffredin

Fformat: Teitl HC Bil  (sesiwn) [rhif]

Enghraifft: Consolidated Fund HC Bill (2008–09) [5]

Biliau Tŷ'r Arglwyddi

Fformat: Teitl HL Bil (sesiwn) rhif

Enghraifft: Academies HL Bill (2010-11) 1

I gyfeirio at elfen benodol o'r Bil, gellir talfyrru cymal a chymalau i gl a chls a'u hychwanegu at ddiwedd y cyfeirnod.Gallwch hefyd ddefnyddio'r un byrfoddau ag a ddefnyddir ar gyfer statudau.

Enghraifft: Academies HL Bill (2010-11) 1, cl 8(2) 

Os yw'r holl wybodaeth ofynnol i greu troednodyn wedi'i chynnwys wrth gyfeirio at Fil yn y testun, nid oes angen troednodyn.

Mae biliau yn dilyn yr un fformat p'un a yw'r cyfeiriad mewn troednodyn neu mewn llyfryddiaeth. Dylai'r cofnod llyfryddiaeth gyfeirio at y Bil cyfan yn unig, yn hytrach nag elfennau penodol.

I greu cyfeiriad at Fil gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, dylech ddefnyddio enw'r Bil, cam y cynnydd a'r flwyddyn.

Fformat: Enw'r Bil [y llwyfan] (blwyddyn).

Eenghreifftia:  Housing (Wales) Bill [as introduced] (2013).

Planning (Wales) Bill [as amended at stage 3] (2015).

Bil Tai (Cymru) [fel y'i cyflwynwyd] (2013).

Bil Cynllunio (Cymru) [fel y'i diwygiwyd ar ôl cyfnod 3] (2015).

I gyfeirio at elfen benodol o'r Bil, gellir talfyrru cymal a chymalau i gl a chls a'u hychwanegu at ddiwedd y cyfeirnod.Gallwch hefyd ddefnyddio'r un byrfoddau ag a ddefnyddir ar gyfer statudau.

Enghraifft: Housing (Wales) Bill [as introduced] (2013) cl 10(2). 

Bil Tai (Cymru) [fel y'i cyflwynwyd] (2013) ad 10(2).

Os yw'r holl wybodaeth ofynnol i greu troednodyn wedi'i chynnwys wrth gyfeirio at Fil yn y testun, nid oes angen troednodyn.

Mae biliau yn dilyn yr un fformat p'un a yw'r cyfeiriad mewn troednodyn neu mewn llyfryddiaeth. Dylai'r cofnod llyfryddiaeth gyfeirio at y Bil cyfan yn unig, yn hytrach nag elfennau penodol.

I greu cyfeiriad at Fil gerbron Senedd yr Alban, dylech ddefnyddio Rhif Bil 'SP' Senedd yr Alban, Enw'r Bil, cam cynnydd y sesiwn a'r flwyddyn.

Fformat: Scottish Parliament 'SP' Rhif Bil  | Enw'r Bil [cam] Sesiwn (blwyddyn).

Enghreifftiau: SP Bill 4 Abolition of Feudal Tenure etc (Scotland) Bill [fel y'i cyflwynwyd] Session 1 (1999) 

SP Bill 4A Abolition of Feudal Tenure etc (Scotland) Bill [fel y'i diwygiwyd yng Nghyfnod 2] Session 1 (2000) 

I gyfeirio at elfen benodol o'r Bil, gellir talfyrru cymal a chymalau i gl a chls a'u hychwanegu at ddiwedd y cyfeirnod.Gallwch hefyd ddefnyddio'r un byrfoddau ag a ddefnyddir ar gyfer statudau.

Enghraifft: SP Bill 4 Abolition of Feudal Tenure etc (Scotland) Bill [fel y'i cyflwynwyd] Session 1 (1999)  cl 2(1).