Mae cyhoeddiad swyddogol yn gyhoeddiad a gyhoeddir gan y Senedd, adran o'r llywodraeth (DU neu dramor), llywodraeth ddatganoledig neu sefydliad rhyngwladol fel yr Undeb Ewropeaidd neu Sefydliad Iechyd y Byd. Weithiau nid oes awdur personol felly bernir mai'r sefydliad yw'r awdur corfforaethol. Gwiriwch y gwahanol dudalennau yn y canllaw hwn i weld sut i ddyfynnu ffurfiau penodol o gyhoeddiadau swyddogol.