Mae'n bwysig cynnwys erthyglau cyfnodolion neu bapur newydd yn eich traethodau gan eu bod yn darparu gwybodaeth ddibynadwy a diweddar o ansawdd uchel yn eich maes pwnc. Mae hefyd yn dangos eich bod wedi darllen yn eang o fewn eich pwnc.
Os oes erthygl ar gael mewn fformat print, dyfynnwch hi fel erthygl wedi'i hargraffu hyd yn oed os ydych chi wedi'i darllen ar-lein.
Os yw'r erthygl ar gael ar-lein yn unig, cynhwyswch y cyfeiriad gwe a'r dyddiad y gwnaethoch gyrchu'r erthygl.