Papur Gorchymyn yw dogfen a roddir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ac a gyflwynir gerbron y Senedd.
Gall papurau gwynion, papurau gwyrddion, cytundebau, ymatebion gan Lywodraethau, biliau drafft, adroddiadau gan Gomisiynau Brenhinol, adroddiadau gan ymholiadau annibynnol ac amrywiaeth o sefydliadau Llywodraethol gael eu rhyddhau fel Papurau Gorchymyn, fe’u gelwir yn bapurau gorchymyn oherwydd cânt eu cyflwyno gerbron y Senedd yn ffurfiol “Ar Orchymyn Ei Mawrhydi".
I gyfeirio gwybodaeth o Bapur Gorchymyn, mae angen i chi gynnwys yr Awdur a'r teitl mewn llythrennau italig, ac yna rhif y papur Gorchymyn a'r flwyddyn mewn cromfachau.
Fformat: Awdur, Teitl (Rhif Papur Gorchymyn, blwyddyn)
Enghraifft: Secretary of State for the Home Department, Identity Cards: The Next Steps (Cm 6020, 2003).
Byddwch yn ofalus i nodi'r talfyriad ar gyfer Papur Gorchymyn fel y dangosir ar ei dudalen deitl. Bu saith chyfres o Bapurau Gorchymyn ac mae gan bob cyfres ei dalfyriad unigryw ei hun.
Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.
Cyfres Gyntaf | 1 - 4222 | 1833 - 1869 |
Ail Gyfres | C 1 - C 9550 | 1870 - 1899 |
Trydedd Gyfres | Cd 1 - Cd 9239 | 1900 - 1918 |
Pedwaredd Gyfres | Cmd 1 - Cmd 9889 | 1919 - 1956 |
Pumed Gyfres | Cmnd 1 - Cmnd 9927 | 1956 - 1986 |
Chweched Gyfres | Cm 1 - | 1986 - |
Seithfed Gyfres | CP 1 - | 2019 - |