Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Blogiau a Gwefannau

I gyfeirio at wybodaeth o flog, dylech gynnwys enw'r awdur, teitl y cofnod ac yna enw'r blog a'r dyddiad cyhoeddi mewn cromfachau. Dylech ddiweddu gyda'r URL a'r dyddiad cyrchu.

Fformat: Awdur 'Teitl Mynediad' (Enw Blog, dyddiad cyhoeddi) <URL> dyddiad cyrchu.

Enghraifft: R Moorhead, 'Solicitors First' (Lawyer Watch, 25 Mawrth 2011) <http://lawyerwatch.wordpress.com/2011/03/25/solictiors-first/> cyrchwyd ar 13 Ebrill 2011.

Os na enwir awdur, defnyddiwch enw'r sefydliad sy'n cynhyrchu'r blog. Os na ellir nodi bod unrhyw berson neu sefydliad yn gyfrifol am y blog, dechreuwch eich troednodyn gyda theitl y blog. Os nad oes dyddiad cyhoeddi, gallwch ei hepgor, ond nodwch y dyddiad mynediad bob amser.

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.

I gyfeirio gwybodaeth o wefan, dylech gynnwys enw'r awdur, teitl y dudalen we ac yna enw'r wefan a'r dyddiad cyhoeddi mewn cromfachau. Dylech ddiweddu gyda'r URL a'r dyddiad cyrchu.

Os nad oes dyddiad cyhoeddi ar y wefan, rhowch ddyddiad mynediad yn unig.
 

Fformat: Awdur, 'Tudalen We' (Gwefan, dyddiad cyhoeddi) <URL> dyddiad cyrchu.

Enghraifft troednodyn: Simon Myerson, 'Applying Yourself to Pupillage' (LawCareers.net, 5 Ebrill 2011) <www.lawcareers.net/Information/Feature/Detail.aspx?r=1355> cyrchwyd ar 12 Ebrill 2011

Enghraifft llyfryddiaeth: Myerson S, 'Applying Yourself to Pupillage' (LawCareers.net, 5 April 2011) <www.lawcareers.net/Information/Feature/Detail.aspx?r=1355> accessed 12 April 2011

Os yw awdur gwefan yn sefydliad e.e. Cymdeithas Rheoleiddio Cyfreithwyr, nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.

Os nad oes awdur wedi'i enwi, defnyddiwch enw'r sefydliad sy'n gyfrifol am y dudalen we. Os nad oes enw person na sefydliad, gallwch ddechrau eich cyfeirnod gyda theitl y dudalen we.