Os oes gan waith olygydd neu gyfieithydd yn ogystal ag awdur bydd angen i chi gynnwys y ddau yn eich cyfeirnod. Dechreuwch eich cyfeirnod gyda'r awdur yn ôl yr arfer ac yna cynnwys y golygydd neu'r cyfieithydd gyda'r wybodaeth gyhoeddi.
I ddefnyddio troednodyn, rhowch rif uwchysgrif yn eich testun ac yna'r troednodyn ar waelod y dudalen.
Fformat:
Awdur, Teitl (argraffiad, Golygydd (gol) neu gyfieithydd (cyf) Cyhoeddwr | Blwyddyn)
rhif tudalen.
Enghraifft:
13 K Zweigert a H Kötz, An Introduction to Comparative Law (Tony Weir cyf, 3ydd arg, OUP 1998) 66
Yr unig wahaniaeth yw bod yr awdur bellach wedi'i gyfenw'n gyntaf ar gyfer yr awdur cyntaf ac nid ydych chi'n cynnwys rhifau tudalennau.
Fformat:
Awdur, Teitl (argraffiad, Golygydd (gol) neu gyfieithydd (cyf) Cyhoeddwr | Blwyddyn)
Enghraifft:
Zweigert K a H Kötz, An Introduction to Comparative Law (Tony Weir cyf, 3ydd arg, OUP 1998)