Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Achosion Heb eu Adrodd

Mae dyfarniadau heb eu hadrodd yn benderfyniadau gan y llysoedd sydd heb eu cyhoeddi. Gellir dyfynnu achos sydd heb ei adrodd fel awdurdod ond mae’n well defnyddio achos sydd wedi’i adrodd mewn un o’r cyfresi o adroddiadau cyfraith awdurdodol.

Nid oes angen ychwanegu'r gair 'heb ei adrodd' at y cyfeirnod.

Isod mae enghreifftiau o sut i gyfeirio at achos nas adroddwyd fel troednodyn ac yn y llyfryddiaeth:

Troednodyn

Achosion heb eu hadrodd gyda dyfyniad niwtral:

Fformat:

Enw'r achos mewn llythrennau italig │ [blwyddyn] │ llys │ rhif achos, │ [blwyddyn cyhoeddi] │ NEU (blwyddyn y farn) │ gyfrol │adrodd ar dalfyriad │ tudalen gyntaf.

Enghraifft:

Calvert v Gardiner [2002] EWHC 1894 (QB).

Achosion heb eu hadrodd cyn 2001 heb ddyfyniad niwtral:

Fformat:

Enw'r achos mewn llythrennau italig | (llys, | blwyddyb y farn).

Enghraifft:

Stubbs v Sayer (CA, 8 November 1990).

Llyfryddiaeth

Yr unig wahaniaethau yw nad yw enwau achosion yn cael eu italeiddio, ni ddefnyddir pinbwyntio ac nid oes atalnod llawn ar ddiwedd y cyfeirnod.

Enghreifftiau:

Calvert v Gardiner [2002] EWHC 1894 (QB)

Stubbs v Sayer (CA, 8 November 1990)