Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Gwerthuso gwybodaeth ar-lein

Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”

Dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.
Dylech wirio:

  • Pwy ysgrifennodd y wybodaeth? A ydynt yn meddu ar y cymwysterau priodol? A ydynt wedi ysgrifennu deunydd arall ar y pwnc? A ydynt yn dangos rhagfarn?
  • Pryd gafodd y wybodaeth ei chyhoeddi? A yw’n ddigon cyfoes ar gyfer eich anghenion chi?
  • Pam cafodd y dudalen ei gosod ar y we? A yw’n gwerthu neu’n hyrwyddo rhywbeth? A yw’n rhagfarnllyd?