Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA

This page is also available in English

Comisiwm Ewropeaidd

Mae'r Comisiwn Ewropeaidd (EC) yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, sy'n gyfrifol am gynnig deddfwriaeth, gweithredu penderfyniadau, cynnal cytuniadau'r UE a rheoli busnes yr UE o ddydd i ddydd. Mae penderfyniadau a wneir gan y CE yn rhwymol.

Dylid trin penderfyniadau'r Comisiwn Ewropeaidd mewn perthynas â chyfraith cystadleuaeth ac uno fel achosion.

Troednodyn

Fformat:

​ Enw'r achos mewn llythrennau italig | (rhif achos) | Rhif Penderfyniad y Comisiwn | [blwyddyn] | Rhifyn OJ L / tudalen gyntaf

Enghraifft:

Alcate/Telettra (Case IV/M.042) Commission Decision 91/251/EEC [1991] OJ L122/48.

Llyfryddiaeth

Yr unig wahaniaethau yw nad yw enwau achosion yn cael eu italeiddio, ni ddefnyddir pinbwyntio ac nid oes atalnod llawn ar ddiwedd y cyfeirnod.

Enghraifft:

Alcate/Telettra (Case IV/M.042) Commission Decision 91/251/EEC [1991] OJ L122/48