Wrth greu cyfeiriad at erthygl Westlaw Insight, neu'r erthyglau yn Practical Law Company, dylech ddilyn y rheol ar gyfer dyfynnu erthyglau papur newydd ar-lein. Yna dylai'r cyfeirnod gynnwys yr awdur a'r teitl mewn dyfynodau sengl gyda'r ffynhonnell mewn llythrennau italig, ac yna'r dyddiad cyhoeddi mewn cromfachau, y dyddiad mynediad ac os oes angen rhifau paragraff i nodi'r cyfeirnod.
Fformat: Awdur ’teitl’ teitl cronfa ddata (dyddiad cyhoeddi) dyddiad cyrchu [rhifau paragraff]
Enghraifft: Daniel Greenberg, 'Equality and Human Rights' Westlaw Insight (6 Mawth 2018) cyrchwyd ar 7 Awst 2018.
Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.