Mae deddfwriaeth yr UE yn cynnwys cytuniadau a phrotocolau. Cyhoeddir deddfwriaeth yn y gyfres L.
Fformat: Teitl y ddeddfwriaeth gan gynnwys diwygiadau os oes angen | [blwyddyn] | Cyfres OJ | rhifyn / tudalen gyntaf.
Enghreifftiau: Protocol to the Agreement on the Member States that do not fully apply the Schengen acquis-Joint Declarations [2007] OJ L129/35.
Consolidated Version of the Treaty on European Union [2008] OJ C115/13.
Ar 1 Ionawr 2015 mae nifer deddfwriaeth yr UE wedi newid ac erbyn hyn mae gan ddeddfwriaeth yr UE rif dilyniannol unigryw.
Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau, Argymhellion a Barn
Fformat: Math o ddeddfwriaeth | rhif | teitl | [blwyddyn] | Rhifyn OJ L / tudalen gyntaf
Enghraifft o gyfarwyddeb: Council Directive 2002/60/EC of 27 June 2002 laying down specific provisions for the control of African swine fever and amending Directive 92/119/EEC as regards Teschen disease and African swine fever [2002] OJ L192/27
(Sylwch fod y flwyddyn yn dod cyn y rhif rhedeg mewn dyfyniadau i Gyfarwyddebau.)
Enghraifft o reoliad: Council Regulation (EC) 1984/2003 of 8 April 2003 introducing a system for the statistical monitoring of trade in bluefin tuna, swordfish and big eye tuna with the Community [2003] OJ L295/1.
(Sylwch fod y flwyddyn yn dilyn y rhif rhedeg mewn dyfyniadau i reoliadau).
Enghraifft o ddeddfwriaeth o 2015 ymlaen: Decision 2019/326 on Measures for Entering the Data in the Entry/Exit System [2019] OJ L057/5.
Nid oes gwahaniaeth rhwng troednodiadau a'r llyfryddiaeth heblaw bod atalnod llawn ar ddiwedd y dyfyniad yn y troednodyn.
Rheoliadau, Cyfarwyddebau, Penderfyniadau, Argymhellion a Barn
Fformat: Math o ddeddfwriaeth | rhif | teitl | [blwyddyn] | rhifyn/tudalen gyntaf OJ L
Mae pum math o weithred gyfreithiol y gall sefydliadau'r UE eu mabwysiadu.Maent wedi'u rhestru yn Erthygl 288 Cytuniad ar Weithrediad yr UndebEwropeaidd (TFEU):
Rheoliadau - Mae rheoliadau'r UE yn orfodadwy ar unwaith fel cyfraith ymmhob un o wledydd yr UE unwaith byddant wedi'u cadarnhau gan Frwsel.
Cyfarwyddebau - Mae cyfarwyddebau hefyd yn berthnasol i holl wledydd yr UEond penderfyniad pob gwlad yw eu cynnwys yn eu systemau cyfreithiol euhunain ai peidio.
Penderfyniadau - Cyfreithiau'r UE yw penderfyniadau wedi'u cyfeirio atwlad/cwmni/sefydliad penodol ac maent yn rhwymol arnynt hwy'n unig (ynorfodadwy'n gyfreithiol arnyn nhw).
Argymhellion -Awgrymiadau gan sefydliadau'r UE yw argymhellion (e.e. YComisiwn Ewropeaidd/Senedd/Cyngor) o ran pa gamau gweithredu yr hoffenti'w haelod-wladwriaeth eu cymryd. Nid ydynt yn rhwymol (nid oes angen eu dilyn).
Barn - Rhoddir barn gan yr UE mewn ymateb i sefyllfa benodol iawn ac mae'nnodi pa gamau gweithredu y dylid eu cymryd gan yr aelod-wladwriaeth/sefydliad. Nid ydynt yn rhwymol.