Skip to Main Content

Cyfeirnodi yn arddull OSCOLA (Ar-lein)

This page is also available in English

Hansard

I greu cyfeiriad at Hansard, mae angen i chi ddweud ai Tŷ'r Cyffredin (HC) neu Dŷ'r Arglwyddi (HL) yw'r cofnod, ac yna 'Deb' ar gyfer dadl, y dyddiad, y gyfrol a'r rhif cyffredin. Os ydych chi'n cyfeirio at ateb ysgrifenedig yn Nhŷ'r Cyffredin rhowch 'W' ar ôl rhif y golofn. Os ydych chi'n cyfeirio at ateb ysgrifenedig yn Nhŷ'r Arglwyddi rhowch 'WA' o flaen rhif y golofn.

Enghreifftiau: HC Deb 3 February 1977, vol 389, cols 973-76

HC Deb 4 July 1997m vol 280, col 505W

HL deb 21 July 2005, vol 673, col WA261

Os ydych chi'n defnyddio Hansard Online, cyfeiriwch ato yn yr un ffordd ag y byddech chi â'r fersiwn argraffedig.

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.

Adroddiadau'r Pwyllgor Dethol

I greu cyfeiriad at Adroddiad Pwyllgor Dethol, defnyddiwch enw'r pwyllgor, ac yna enw'r adroddiad mewn llythrennau italig a naill ai HC neu Hl mewn cromfachau. Yna mae angen blynyddoedd blynyddoedd y Senedd a rhif cyfresol yr adroddiad y gallwch chi ddod o hyd iddo ar waelod ei dudalen deitl.

Enghraifft: Defence Select Committee, Iraq: An Initial Assessment of Post-conflict Operations (HC 2004-05 65-I) paras 85-91

I nodi paragraffau, defnyddiwch para neu paras cyn y rhifau

Nid oes unrhyw newid mewn fformat rhwng cyfeirnod troednodyn a chofnod llyfryddiaeth.